|
Rhif y ddeiseb:P-06-1423
Teitl y ddeiseb: Adfer gwasanaeth bws arfordirol 552 y Cardi Bach yn Ne Ceredigion!
Geiriad y ddeiseb: Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, y byddai gwasanaeth y Cardi Bach yn parhau. Yna, yn gwbl annisgwyl, daeth y newyddion y bydd y gwasanaeth yn dod i ben. Y rheswm, yn ôl yr hyn a ddywedir wrthym, yw ‘na chafwyd cyllid yn lle’r cyllid Ewropeaidd fel yr addawyd.’ Mae hyn yn newyddion drwg iawn i drigolion lleol nad oes car ar gael iddynt, yn ogystal ag i'r diwydiant twristiaeth.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i adfer y gwasanaeth fel rhan o'r contract newydd ar gyfer gwasanaeth y T5. Mae’n hollbwysig bod hyn yn digwydd cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau nad yw cymunedau ar hyd y llwybr hwn yn cael eu hynysu am eiliad yn hwy nag sydd rhaid.
Wrth lansio Blwyddyn y Llwybrau 2023, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: ‘Nod y flwyddyn hon yw darganfod trysorau wedi'u colli, ymgymryd â theithiau'r synhwyrau a chreu atgofion ar hyd llwybrau sy'n gysylltiedig ag atyniadau, digwyddiadau, tirweddau a'r arfordir. Rydyn ni'n dechrau 2023 gydag ymgyrch newydd i wneud yn siŵr bod Cymru yn weladwy, ac yn edrych ymlaen at annog pobl i ymweld â rhannau gwahanol o'r wlad drwy gydol y flwyddyn nesaf.'
Mae'r economi ymwelwyr yn gyfrannwr ac yn sbardun allweddol i'r economi yng Nghymru. Mae Covid wedi bod yn ergyd drom iddi. Mae gwasanaethau fel y Cardi Bach yn gwbl hanfodol er mwyn helpu i unioni’r niwed hwnnw! |
Sefydlwyd gwasanaeth bws y Cardi Bach yn 2015-16 ac mae’n gweithredu rhwng Aberteifi a Cheinewydd. Roedd y gwasanaeth yn rhan o gynllun ehangach Bwcabus.
Gwasanaeth bysiau sy’n ymateb i’r galw oedd Bwcabus. Roedd yn cysylltu cymunedau gwledig â phrif wasanaethau bysiau yng Ngheredigion, sir Gaerfyrddin a sir Benfro. Roedd y cynllun yn cael ei ariannu gan nifer o ffynonellau, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Sefydlwyd y gwasanaeth yn dilyn syniad a gyflwynwyd gan yr Athro Stuart Cole yn 2009. Ers hynny, mae nifer o wasanaethau bws eraill o’r math hwn wedi cael eu datblygu o dan yr enw Gwasanaeth Fflecsi.
Ym mis Medi 2023, cyhoeddwyd y byddai gwasanaeth Bwcabus yn dod i ben ar ei ffurf bresennol ar 31 Hydref oherwydd diffyg arian. Esgorodd hyn ar bryderon gan deithwyr rheolaidd sy’n dibynnu ar y gwasanaeth.
Wrth gyhoeddi diwedd y gwasanaeth, dywedodd Cyngor Sir Ceredigion fod hyn yn digwydd am nad oedd Llywodraeth Cymru bellach yn gallu darparu cyllid. Gynt, byddai’r gwasanaeth yn cael ei ariannu drwy grant drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, ond Llywodraeth Cymru sydd wedi bod yn ariannu’r gwasanaeth yn llawn ers i gyllid y Cynllun Datblygu Gwledig ddod i ben ym mis Gorffennaf 2023.
Yn dilyn y cyhoeddiad y byddai'r gwasanaeth yn dod i ben, dywedodd Lee Waters AS, y cyn Ddirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, mewn ymateb i gwestiynau amserol yn y Cyfarfod Llawn:
Roedd yn ddrwg iawn gennyf glywed y bydd gwasanaeth Bwcabus yn dod i ben… mae Llywodraeth y DU wedi methu rhoi cyllid newydd ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth gwledig a gâi eu cefnogi'n flaenorol gan yr UE. Felly, ni allwn barhau i gefnogi Bwcabus, ond rydym yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru a'r awdurdodau lleol ar archwilio opsiynau amgen…
Yn yr un sgwrs, dywedodd y cyn Ddirprwy Weinidog:
…rydym wedi gweithio'n galed iawn gyda'r diwydiant bysiau a gydag awdurdodau lleol dros yr haf i geisio diogelu cymaint o wasanaethau â phosibl… er enghraifft, y bydd cyllid ar gyfer y Cardi Bach yng Ngheredigion yn parhau fel rhan o waith caffael T5 Trafnidiaeth Cymru.
Fodd bynnag, nid yw'r ohebiaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar y mater (gweler camau gan Lywodraeth Cymru isod) yn cyfeirio at hyn o gwbl.
Ariannu a diwygio ehangach i wasanaethau bysiau
Yn fwy cyffredinol, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn darparu cymorth brys i’r diwydiant bysiau ers i nifer y teithwyr gwympo o ganlyniad i’r pandemig. Yn fwyaf diweddar, cyhoeddodd £39m ar ffurf y Grant Rhwydwaith Bysiau ar gyfer awdurdodau lleol i “sicrhau gwasanaethau bysiau y maent o’r farn eu bod yn angenrheidiol yn gymdeithasol na fydd y farchnad fasnachol yn eu darparu”. Mae’r datganiad yn dweud y bydd y Grant Rhwydwaith Bysiau yn “gweithredu fel pont rhwng yr arian brys a ddarparwyd i fasnachfreinio bysiau”. Disgwylir i Lywodraeth Cymru gyflwynosystem Cymru gyfan o fasnachfreinio drwy Fil gwasanaethau bysiau newydd eleni.
Yn ei lythyr at y Cadeirydd dyddiedig 19 Ebrill, dywed Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, Ken Skates AS, er bod Trafnidiaeth Cymru wedi gwahodd cynigion i weithredwyr redeg gwasanaeth Cardi Bach, ni chafodd unrhyw gynigion eu cyflwyno.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud ei fod wedi gofyn i swyddogion Llywodraeth Cymru gyfarfod â Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion i drafod opsiynau eraill.
Cyfeiriodd sawl Aelod at sefyllfa gwasanaeth Bwcabus yn ystod dadl Plaid Cymru ar wasanaethau bws ar 4 Hydref 2023. Ni dderbyniwyd cynnig Plaid Cymru, a oedd yn cynnwys galwad ar Lywodraeth Cymru i adfer y gwasanaeth, nac ychwaith welliant y Llywodraeth.
Ar 13 Hydref 2023, cyflwynwyd cwestiwn ysgrifenedig gan Andrew R.T. Davies AS a ofynnodd a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu ail-bwrpasu cyllid er mwyn sicrhau y gall y gwasanaeth barhau i weithredu. Mewn ymateb, tynnodd Llywodraeth Cymru sylw at faterion ariannu y cyfeiriwyd atynt yn gynharach yn y papur briffio hwn.
Ym mis Tachwedd 2023 gwnaethoch ystyried deiseb yn galw am achub gwasanaeth Bwcabus. Gwnaethoch gytuno i gadw’r ddeiseb yn agored a chadw golwg ar y mater.
|
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |